Strwythur y Cwmni
Rheolwr Gyfarwyddwr: Sue Roberts
Prif Gyfieithydd a Chyfarwyddwr: Wil Roberts
5 Cyfieithydd Allanol
Cefndir y Cyfarwyddwyr
Mae gan Wil a Sue Roberts gefndir amrywiol.
Enillodd Wil Roberts radd anrhydedd mewn Amaethyddiaeth o Goleg y Brifysgol, Bangor a gradd Meistr mewn Economeg Amaethyddol o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Treuliodd ddwy flynedd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn astudio hanes amaethyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod 1880 – 1940, gan gyfweld ffermwyr o bob rhan o Gymru wrth eu holi ynghylch dulliau ffermio traddodiadol.
Yma ymunodd â Gwasanaeth Cynghori a Datblygu Amaethyddol y Weinyddiaeth Amaeth, cymhwysodd fel Syrfëwr Siartredig a Phrisiwr Amaethyddol, a bu’n gweithio ym Morgannwg a Gwynedd. Roedd yn arbenigo ar gynghori ffermwyr ynghylch cadwraeth; sefydlodd Grŵp Ffermio, Coedwigaeth a Bywyd Gwyllt Gwynedd a bu’n Ysgrifennydd y grŵp am gyfnod.
Yna ymunodd â Chyngor Sir Gwynedd fel Dirprwy Brisiwr a Swyddog Stadau’r Sir gyda chyfrifoldeb arbennig dros yr Ystâd Mân-ddaliadau a daeth yn Brif Swyddog Stadau Cyngor Gwynedd ar ad-drefnu llywodraeth leol cyn ymadael i sefydlu Inc.
Mae wedi ysgrifennu’n helaeth i’r wasg Gymraeg ar faterion amaethyddol a chefn gwlad ac mae hefyd yn awdur nifer o lyfrynnau a thaflenni Cymraeg ar y rhain. Mae’n Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae cefndir Sue Roberts mewn busnes a chyhoeddusrwydd.
Datblygodd a bu’n rhedeg busnes gwyliau fferm hynod lwyddiannus a enillodd sawl gwobr gan Fwrdd Croeso Cymru cyn ymuno â’r Cambrian News fel rheolwr hysbysebu rhanbarthol. Hi oedd yn ysgrifennu erthyglau Cymraeg y papur ac yn cyfieithu.
Yna ymunodd â Chwmni Recordiau Sain, prif gwmni recordiau Cymraeg, fel Swyddog Cyhoeddusrwydd a’r Wasg. Gweinyddir Sain yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd yr holl ddatganiadau i’r Wasg a deunydd Cyhoeddusrwydd yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Mae Inc yn falch fod gan y ddau bartner brofiad helaeth o ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle a’i fod yn gallu cynhyrchu cyfieithiadau sydd nid yn unig yn hawdd eu darllen ond yr un mor ddealladwy â’r fersiwn Saesneg i’r gynulleidfa darged.