Trefn Cyfieithu

 

Sicrwydd Ansawdd

Mae gan INC system sicrwydd ansawdd lem ac mae’n gweithio ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru at gael achrediad ISO9001. Mae prif nodweddion y system fel a ganlyn:

Trefn olrhain

Daw bron y cyfan o waith Inc ar ffurf dogfennau Word drwy e-bost. Rhoddir rhif unigryw i bob dogfen gynted ag y daw i’r swyddfa, cedwir y rhif mewn llyfr cofnodion a nodir y terfyn amser. Archwilir y llyfr cofnodion o leiaf ddwywaith y dydd i gadw golwg ar y gwaith sydd ar y gweill. Cedwir dogfennau mewn ffeiliau ar wahân ar y cyfrifiadur cyn eu hargraffu a’u rhifo.

Defnyddir cof cyfieithu Wordfast wrth gyfieithu i gadw cysondeb. Mae’r rhaglen yma yn cadw’r cyfieithiad yn gadarn at ffurf y ddogfen wreiddiol.

Dilynir y drefn sicrwydd ansawdd (gweler isod) ar gyfer pob cyfieithiad cyn ei anfon yn ôl at y cleient a’i groesi yn y llyfr cofnodion

Sicrwydd Ansawdd

Bydd y cyfieithydd yn darllen pob cyfieithiad ar y sgrîn cyn rhedeg Cysill, y gwiriwr sillafu Cymraeg, drwyddo a’i argraffu. Bydd Wil Roberts, y Prif Gyfieithydd, yn prawf ddarllen pob cyfieithiad ar bapur ac yn nodi newidiadau. Bydd y cyfieithydd gwreiddiol yn cynnwys y newidiadau yn y cyfieithiad cyn ei anfon at Sue Roberts, y Rheolwr Gyfarwyddwr, a fydd yn ei anfon yn ôl at y cleient.

Cyfnod Cyfieithu

Cytunir ar y terfyn amser ar gyfer pob cyfieithiad gyda’r cleient o flaen llaw. Ni dderbynnir gwaith na ellir ei gyfieithu mewn pryd. Os daw’n amlwg, am unrhyw reswm, na ellir cadw at y terfyn amser, cysylltir â’r cleient ar unwaith – ond mae hyn yn hynod o anarferol.

 

Datganiad Dull

  • Trafodir pob tasg cyfieithu gyda’r cleient a chytunir ar ba bryd y disgwylir y gwaith yn ôl ac ar y ffî.
  • Gorau oll os ceir y gwaith dryw e-bost ar ffurf Microsoft Word neu Rich Text Format, Excel neu PowerPoint.
  • Dim ond cyfieithwyr profiadol a ddefnyddir gan INC, a bydd pob cyfieithiad yn dilyn yn glos ffurf, arddull a goslef y gwreiddiol.
  • Trafodir unrhyw derm anghyfarwydd gyda’r cleient. Mae gan INC gasgliad helaeth o dermau gwahanol feysydd ac mae mewn cysylltiad agos â chyfieithwyr eraill er mwyn sicrhau cysondeb terminoleg.
  • Os, am unrhyw reswm, na ellir cael y gwaith yn barod erbyn y terfyn amser y cytunwyd arno, cysylltir â’r client gynted â bo modd. Anaml iawn, iawn, y digwydd hyn.
  • Cywirir y cyfieithiad yn ôl y Weithdrefn Ansawdd isod.
  • Dychwelir y cyfieithiad gorffenedig at y cleient yn y ffurf y cytunwyd arni gydag anfoneb am y gwaith.

Mae gan INC yswiriant indemneb proffesiynol llawn.