‘Roedd cyfieithiad Inc o adroddiad y Prif Gwnstabl yn wirioneddol wych.’
John Puw, Prif Gyfieithydd Heddlu Gogledd Cymru
Mae Inc yn cyfieithu i rai o sefydliadau a chwmnïau mwyaf blaenllaw Cymru fel y gwelir o’r rhestr gleientiaid. Mae’n gwmni yn cael ei redeg yn hollol broffesiynol, sydd wedi hen ennill ei blwyf ac ennill enw da yn y byd cyfieithu. Gellir rhoi pris sefydlog am gyfieithu o fewn amrant, dros y ffôn neu drwy e-bost.
Cyfieithu proffesiynol o’r safon uchaf
Cewch eich dogfennau wedi’u cyfieithu’n gyflym iawn i’r safonau uchaf posib. Bydd y cyfieithiad, o’r Saesneg i’r Gymraeg neu fel arall, yn adlewyrchu arddull y testun gwreiddiol ac yn gyfan gwbl ddealladwy. Os ydych angen cyfieithu ar frys, neu gyngor am sut i fodloni goblygiadau statudol cyfieithu yng Nghymru, gallwn ni eich helpu.
Pwy ydym ni?
Sefydlwyd Gwasanaeth Cyfieithu Inc yn 2001 gan ŵr a gwraig, Wil a Sue Roberts, a ffurfiwyd cwmni cyfyngedig, Inc Cyfieithu Cyf yn 2007. Mae’n cynnig cyfieithiadau o’r ansawdd gorau o’r Saesneg i’r Gymraeg ac fel arall.
Mae pob un o gyfieithwyr Inc yn hynod o brofiadol a chyflogir cyfieithwyr cymwysedig, proffesiynol, llawrydd eraill yn ôl y gofyn, pob un yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y corff sy’n gosod safon cyfieithu yng Nghymru, a phob un hefyd yn gorfod bodloni system rheoli ansawdd lem Inc.
Sue Roberts yw’r Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni a Wil Roberts yw’r Prif Gyfieithydd.
Rheoli Ansawdd
Mae gan Inc system rheoli ansawdd lem. Darllenir pob cyfieithiad ar sgrîn, fe’i prawf ddarllenir gan gyffeithydd arall ar bapur a bydd y cyfieithydd gwreiddiol yn ei ddarllen ar bapur cyn ei anfon yn ôl at y cleient.
Meysydd o Arbenigedd
| Wil Roberts | Llywodraeth Leol a Chanolog, Eiddo a Rheoli Eiddo, Gwasanaethau Ariannol, Cynllunio Gwlad a Thref, Datblygu Economaidd, Materion Cefn Gwlad, Amaethyddiaeth, Cyfreithiol. |
| Sue Roberts | Gwasanaethau Cymdeithasol, Cysylltiadau Cyhoeddus, Cyhoeddusrwydd, Addysg, Twristiaeth, Bwyd. |