Hafan
Cyfieithu proffesiynol o’r safon uchaf
Cewch eich dogfennu wedi’u cyfieithu’n gyflym iawn i’r safonau uchaf posib. Os oes angen cyfieithu ar frys arnoch, neu gyngor am sut i fodloni goblygiadau statudol cyfieithu yng Nghymru, rydym yn gallu eich helpu.
Pwy ydym ni?
Sefydlwyd Gwasanaeth Cyfieithu INC yn 2001 gan ŵr a gwraig, Wil a Sue Roberts. Mae’n cynnig cyfieithiadau o ansawdd uchel o’r Saesneg i’r Gymraeg ac fel arall.
Mae Wil a Sue yn gyfieithwyr hynod o brofiadol a chyflogir cyfieithwyr cymwysiedig, proffesiynol, llawrydd eraill yn ôl y gofyn, pob un yn aelodau o Gymeithas Cyfieithwyr Cymru, y corff sy’n gosod safon cyfieithu yng Nghymru, a phob un hefyd yn gorfod bodloni system rheoli ansawdd lem INC.
Meysydd o Arbenigedd
| Wil Roberts | Llywodraeth Leol a Chanolog, Eiddo a Rheoli Eiddo, Gwasanaethau Ariannol, Cynllunio Gwlad a Thref, Datblygu Economaidd, Materion Cefn Gwlad, Amaethyddiaeth, Cyfreithiol. |
| Sue Roberts | Gwasanaethau Cymdeithasol, Cysylltiadau Cyhoeddus, Cyhoeddusrwydd, Addysg, Twristiaeth, Bwyd. |